Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y_Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
24 Mehefin 2020
Amser y
cyfarfod: 11.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6375
------
Dechreuodd yr eitem am 11.00.
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir a
dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo
yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â
thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru
2006.
Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda.
Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 11.00
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Atebodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip y pedwar cwestiwn cyntaf am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â’i chyfrifoldebau.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 12.27
3 Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Dechreuodd yr eitem am 12.35
Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar
ôl cwestiwn 2.
Am 13.19, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro tan 14.00.
4 Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 14.00
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 5, 7 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Cafodd cwestiwn 6 ei ateb gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
5 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 14.53
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr achosion o
Covid-19 yn deillio o ffatri 2 Sisters yn Llangefni?
Gofyn i’r Gweinidog Addysg
Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch trefniadau ar gyfer ail agor yr ysgolion am bedair wythnos cyn toriad yr haf?
6 Dad ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21
Dechreuodd yr eitem am 15.20
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7335 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Iau, 28 Mai 2020.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
24 |
1 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
7 Dadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid
Dechreuodd yr eitem am 16.14
NDM7336 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyllid i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mai 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan y Senedd y DU
Finance Bill 2019-21(Saesneg yn unig)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 34
Dechreuodd yr eitem am 16.20
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7338 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Pleidleisio o Bell' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2020.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 34, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith pan gaiff y Senedd hon ei diddymu, neu pan fydd y Senedd yn penderfynu felly, pa un bynnag sydd gyntaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
1 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
9 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Effaith argyfwng COVID-19 ar y sector celfyddydau
Dechreuodd yr eitem am 16.20
NDM7337 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith argyfwng COVID-19 ar y sector celfyddydau, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mehefin 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Dadl Plaid Brexit - Codi'r Cyfyngiadau Symud
Dechreuodd yr eitem am 16.50
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Ni chafodd Gwelliant 1 ei gynnig
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig
NDM7334 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i gyflymu'r gwaith o godi mesurau'r cyfyngiadau symud;
b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan;
c) hwyluso ail-agor economi Cymru yn gyflymach;
d) diystyru codi cyfraddau treth incwm Cymru i dalu costau ymestyn y cyfyngiadau symud.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
39 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig
11 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Covid a'r economiar
Dechreuodd yr eitem am 17.41
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7339 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y pandemig coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd.
2. Yn croesawu'r manteision economaidd a ddaw i Gymru yn sgil bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig, gan gynnwys cyllid ar gyfer:
a) y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws sy'n gwarchod 316,500 o fywoliaethau yng Nghymru; a
b) y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig sy'n helpu 102,000 o bobl yng Nghymru.
3. Yn nodi â phryder adroddiad y 'Centre for Towns', sef 'Covid and our Towns' sy'n awgrymu y bydd economïau trefi'r Cymoedd ac arfordir gogledd Cymru ymhlith y rhai a fydd yn ddioddef waethaf yn sgîl y pandemig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Adfer Cymunedol Covid i ddarparu cymorth economaidd wedi'i dargedu ar gyfer y cymunedau hynny y bydd y pandemig wedi cael yr effaith fwyaf arnynt.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
1 |
39 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi’r ffaith bod cyllid yr UE wedi helpu Llywodraeth Cymru i ymateb i bandemig COVID-19 a hefyd yn nodi na fydd Llywodraeth Cymru, heb gyllid olynol, yn gallu ymateb i unrhyw argyfwng yn y dyfodol i’r un graddau.
Yn nodi adroddiad y Centre for Towns ‘Covid and our Towns’ ac yn croesawu’r mesurau trawslywodraethol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno drwy ei Grŵp Gweithredu ynghylch Canol Trefi a’r agenda ‘Trawsnewid Trefi’ ar draws Cymru.
Yn cydnabod swyddogaeth bwysig cynghorau tref ac Ardaloedd Gwella Busnes creadigol a deinamig o safbwynt helpu canol trefi i adfer ar ôl effeithiau economaidd y Coronafeirws.
Yn croesawu’r gwaith arbrofol sy’n cael ei gyflawni drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol o safbwynt ystyried dulliau newydd o sicrhau bod trefi a chymunedau ar draws Cymru yn fwy cydnerth. Bydd hyn yn cefnogi ein hymateb i bandemig COVID-19.
Yn croesawu galwadau gan sefydliadau sy’n cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, FSB Cymru, TUC Cymru, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Chanolfan Llywodraethiant Cymru i Lywodraeth y DU waredu ar frys y cyfyngiadau cyllid sy’n cyfyngu’n sylweddol ar allu Llywodraeth Cymru i wario er mwyn gallu ymateb yn effeithiol i’r pandemig.
Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol ar gyfer sbarduno’r economi, gan gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru tuag at adfer trefi a chymunedau ar draws Cymru mewn modd gwyrdd a phriodol yn sgil y pandemig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
25 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol
Gwelliant 3 - Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai nawr yw'r amser i Lywodraeth y DU ddatganoli rhagor o bwerau ariannol i Lywodraeth Cymru fel y gall ofalu'n well am bobl Cymru yng ngoleuni'r pandemig Covid-19.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
16 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7339 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y pandemig coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd.
2. Yn croesawu'r manteision economaidd a ddaw i Gymru yn sgil bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig, gan gynnwys cyllid ar gyfer:
a) y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws sy'n gwarchod 316,500 o fywoliaethau yng Nghymru; a
b) y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig sy'n helpu 102,000 o bobl yng Nghymru.
3. Yn croesawu Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru sydd werth £500m. Mae’r Gronfa hon yn rhan o becyn gwerth £1.7 biliwn o gymorth ar gyfer busnesau yng Nghymru mewn ymateb i’r pandemig. Dyma’r pecyn mwyaf hael mewn unrhyw wlad yn y DU.
4. Yn nodi’r ffaith bod cyllid yr UE wedi helpu Llywodraeth Cymru i ymateb i bandemig COVID-19 a hefyd yn nodi na fydd Llywodraeth Cymru, heb gyllid olynol, yn gallu ymateb i unrhyw argyfwng yn y dyfodol i’r un graddau.
5. Yn nodi adroddiad y Centre for Towns ‘Covid and our Towns’ ac yn croesawu’r mesurau trawslywodraethol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno drwy ei Grŵp Gweithredu ynghylch Canol Trefi a’r agenda ‘Trawsnewid Trefi’ ar draws Cymru.
6. Yn cydnabod swyddogaeth bwysig cynghorau tref ac Ardaloedd Gwella Busnes creadigol a deinamig o safbwynt helpu canol trefi i adfer ar ôl effeithiau economaidd y Coronafeirws.
7. Yn croesawu’r gwaith arbrofol sy’n cael ei gyflawni drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol o safbwynt ystyried dulliau newydd o sicrhau bod trefi a chymunedau ar draws Cymru yn fwy cydnerth. Bydd hyn yn cefnogi ein hymateb i bandemig COVID-19.
8. Yn croesawu galwadau gan sefydliadau sy’n cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, FSB Cymru, TUC Cymru, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Chanolfan Llywodraethiant Cymru i Lywodraeth y DU waredu ar frys y cyfyngiadau cyllid sy’n cyfyngu’n sylweddol ar allu Llywodraeth Cymru i wario er mwyn gallu ymateb yn effeithiol i’r pandemig.
9. Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol ar gyfer sbarduno’r economi, gan gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru tuag at adfer trefi a chymunedau ar draws Cymru mewn modd gwyrdd a phriodol yn sgil y pandemig.
10. Yn credu mai nawr yw'r amser i Lywodraeth y DU ddatganoli rhagor o bwerau ariannol i Lywodraeth Cymru fel y gall ofalu'n well am bobl Cymru yng ngoleuni'r pandemig Covid-19.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
25 |
30 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd
Pwynt o Drefn
Dywedodd Neil Hamilton ar gofnod ei fod wedi bwriadu pleidleisio yn erbyn y Rheoliadau Coronafeirws yr wythnos diwethaf, ond ei fod wedi methu gwneud hynny am fod ei feicroffon wedi’i osod yn anghywir.
12 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.34
Fel y nodir ar yr Agenda, cynhaliwyd pleidleisiau heddiw yn unol
â Rheol Sefydlog 34.11.
Enwebodd pob grŵp gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn cario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r llywodraeth. Roedd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.46
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 11.00, Dydd Mercher, 1 Gorffennaf 2020